COFNODION

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

Dydd Llun 11 Mawrth 2024

9.30 – 10.00

Noddwyd y cyfarfod gan Mark Isherwood AS

Yn bresennol:

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Rob Wilks (Ysgrifennydd)

Altaf Hussain AS

Mike Hedges AS

Rachel Williams (Dehonglydd)

Julia Jacobie (Palanteipydd)

 

Tom Lichy (Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, neu’r BDA)

Martin Griffiths (BDA)

Collette Forrest (BDA)

Dee Savage (BDA)

 

Tony Evans

Cathie Robins-Talbot

Stuart Parkinson

Hazel Badjie (Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, neu’r NDCS)

Mark Davies

Margaret Buchanan Geddes

Tori Bishop-Rowe (AVUK)

Ryland Doyle

Lorraine Lewis (Bwrdd iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)

Nigel Williams (Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, neu’r NWSSP)

Ymddiheuriadau:

Joel James AS

Rhun ap Iorwerth AS

Cath Booth (Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, neu’r WCDP)

Sarah Thomas (Y Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain, neu COS)

Dehonglwyr BSL/Saesneg:

Rachel Williams

Adroddwr llais i destun:

Julia Jacobie

 

 

9.30 – 9.50

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Ethol Cadeirydd

Enwebiad(au): Mark Isherwood AS

Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i'r Ysgrifennydd o ran y broses o ethol Cadeirydd.  Cafodd Mark Isherwood ei enwebu fel Cadeirydd gan Mike Hedges. Eiliwyd yr enwebiad gan Altaf Hussain.  Heb unrhyw wrthwynebiad, cafodd Mark Isherwood ei ail-ethol yn Gadeirydd am flwyddyn arall. Diolchodd i bawb am yr ymddiriedaeth a fynegwyd ynddo.

 

Ethol Ysgrifennydd

Enwebiad(au): Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (gweler Atodiad 1)

Trosglwyddodd yr Ysgrifennydd yr awenau yn ôl i'r Cadeirydd, a lywiodd y broses o ethol yr Ysgrifennydd.  Mae Rob Wilks wedi penderfynu ymddiswyddo, a diolchodd y Cadeirydd iddo am ei ymroddiad.  Roedd un enwebiad ar gyfer rôl yr Ysgrifennydd, sef Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain (y BDA).  Cafodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ei henwebu fel Ysgrifennydd y grŵp gan Mike Hedges, a chafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan Altaf Hussain.  Heb unrhyw enwebiadau na gwrthwynebiadau pellach, cafodd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ei phenodi’n ffurfiol fel yr Ysgrifenyddiaeth, gyda Martin Griffiths yn cael ei enwi’n swyddog arweiniol.

Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben, gan nodi’r ffaith ei fod mor gryno. Gwnaeth y Cadeirydd atgoffa’r Ysgrifennydd newydd o'r cyfrifoldebau, gan gynnwys cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol a chyfrifon o fewn pedair wythnos i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben, gan ddiolch i bawb am gymryd rhan a chan ddymuno wythnos dda i bawb.

 


 

Atodiad 1

 

Cais Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain ar gyfer rôl Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar

 

Fersiwn Iaith Arwyddion Prydain yma: https://youtu.be/1wJmNcyWxCY

04 Mawrth 2024

Annwyl bawb,

 

Hoffai Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain gynnig ei hun fel ymgeisydd ar gyfer rôl Ysgrifenyddiaeth newydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar. Yn benodol, rydym yn cynnig bod rôl yr Ysgrifenyddiaeth yn cael ei chyflawni gan Martin Griffiths, rheolwr y gymdeithas yng Nghymru, sy'n byw yng Nghymru. Yn ogystal, mae gennym staff yn ein swyddfa yng Nghymru, ac yn ein pencadlys, a fydd ar gael i gefnogi gwaith gweinyddol y grŵp.

 

Credwn ei bod yn iawn i’r gymdeithas gynnig ei hun am y rhesymau a ganlyn:

 

1)    Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yw'r unig sefydliad cynrychioliadol cenedlaethol yn y DU ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain ac Iaith Arwyddion Iwerddon, fel y’i cydnabyddir gan Ffederasiwn Pobl Fyddar y Byd ac Undeb Ewropeaidd y Byddar. Felly, dylai fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth, polisïau, a phrosesau gwneud penderfyniadau eraill sy'n ymwneud ag ieithoedd arwyddion, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

2)    Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn cael ei rhedeg a’i harwain gan bobl fyddar. Mae ein bwrdd, ein Cadeirydd a'n prif swyddog gweithredol i gyd yn fyddar, ac mae mwy na 75 y cant o’n staff yn fyddar.

3)    Fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan aelodau, mae ein haelodau, sy’n dod o bob rhan o’r DU, wedi nodi’r hyn y maen nhw am i ni ganolbwyntio arno, ac mae hyn wedi’i fynegi yng ngweledigaeth strategol 10 mlynedd y gymdeithas: Taking BSL Forward. Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraethau, cyrff cyhoeddus a’r gymuned fyddar i wneud y newidiadau y mae’r gymuned fyddar am eu gweld, ledled y DU.

4)    Credwn yn gryf mai pobl fyddar yw'r arbenigwyr, a bod yn rhaid iddynt arwain ar bob mater sy’n ymwneud â phobl fyddar. Dylai pobl fyddar arwain y gwaith o ddylunio, datblygu, darparu a gwerthuso gwasanaethau. Byddai cael Ysgrifenyddiaeth Fyddar ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar yn gosod yr esiampl berffaith ar gyfer y dull gweithredu hwn. 

 

Os yw’r gymdeithas yn cael ei phenodi yn Ysgrifenyddiaeth ar gyfer y grŵp, byddwn yn ymdrechu i sicrhau’r canlynol:

 

1)    Bydd yr holl gyfathrebu yn digwydd yn Iaith Arwyddion Prydain a Saesneg.

2)    Byddwn yn parhau â'r arferion presennol o ran cyfathrebu a storio dogfennau, a hynny er mwyn sicrhau cysondeb. Fodd bynnag, mae adnoddau ychwanegol ar gael i ni, ac rydym yn hapus i'w rhannu gyda'r grŵp, os ydynt yn fuddiol, er enghraifft, cronfa ddata ar reoli cysylltiadau â chwsmeriaid.

3)    Byddwn yn trefnu’r pedwar cyfarfod chwarterol nesaf ymlaen llaw, a hynny ar ddiwrnodau ac amseroedd sy’n gyfleus i gynifer o aelodau â phosibl.

4)    Byddwn yn sicrhau bod busnes y grŵp yn cydymffurfio â’r rheolau ar gyfer grwpiau trawsbleidiol y Senedd.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu. Rwy’n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd yr amser i ystyried ein cais, ac edrychaf ymlaen at y cyfle i gyflwyno ein cynnig i chi yn y cyfarfod ar 11 Mawrth.

 

Tom Lichy, Pennaeth Polisi